Eseia 10:12-30 beibl.net 2015 (BNET)

12. Ond pan fydd y Meistr wedi gorffen delio gyda Mynydd Seion a Jerwsalem, bydd e'n cosbi brenin Asyria am fod mor falch ac mor llawn ohono'i hun.

13. Am feddwl fel hyn:“Dw i wedi gwneud y cwbl am fy mod i mor gryf.Roedd gen i strategaeth glyfar,a dw i wedi dileu ffiniau gwledydd.Dw i wedi cymryd eu trysorau nhw,ac wedi bwrw brenhinoedd i lawr fel tarw.

14. Cefais afael ar gyfoeth y gwledyddmor hawdd a dwyn wyau o nyth:heb neb yn fflapio'i adenyddnag yn agor ei big i drydar.”

15. Ydy bwyell o unrhyw werth heb rywun i'w thrin?Ydy llif yn bwysicach na'r un sy'n ei defnyddio?Fel petai gwialen yn chwifio'r dyn sy'n ei chodi!Fel petai ffon yn codi'r person sydd ddim yn bren!

16. Felly, bydd y Meistr—yr ARGLWYDD holl-bwerus—yn anfon afiechyd fydd yn nychu ei filwyr iach;bydd twymyn yn taro ei ysblanderac yn llosgi fel tân.

17. Bydd Golau Israel yn troi'n dân,a'r Un Sanctaidd yn fflam.Bydd yn llosgi'r drain a'r mieri mewn diwrnod,

18. a dinistrio'r goedwig a'r berllan yn llwyr.Bydd fel bywyd dyn sâl yn diflannu.

19. Bydd cyn lleied o goed ar ôlbydd plentyn bach yn gallu eu cyfri!

20. Bryd hynny,fydd y rhai sydd ar ôl yn Israela'r rhai hynny o bobl Jacob sydd wedi diancddim yn pwyso ar y genedl wnaeth eu gorthrymu nhw;Byddan nhw'n pwyso'n llwyrar yr ARGLWYDD, Un sanctaidd Israel.

21. Bydd rhan fechan,ie, rhan fechan o Jacobyn troi yn ôl at y Duw cryf.

22. Israel, hyd yn oed petai dy boblmor niferus â thywod y môr,dim ond nifer fechan fydd yn dod yn ôl.Mae'r dinistr yn sicr.Mae'r gosb sydd wedi ei haeddu yn dod fel llifogydd!

23. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn barod i ddod â'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ar y tir.

24. Felly, dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud: “O fy mhobl, sy'n byw yn Seion, peidiwch bod ag ofn Asyria – er iddo dy daro di gyda'i wialen a dy fygwth gyda'i ffon fel y gwnaeth yr Eifftiaid.

25. Yn fuan iawn bydd fy nig wedi ei dawelu, a bydda i'n troi i'w dinistrio nhw.”

26. Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn chwifio ei chwip uwch eu pennau, fel y gwnaeth pan drawodd Midian wrth Graig Oreb. Bydd yn codi ei wialen fel y gwnaeth dros yr Eifftiaid wrth y môr.

27. Bryd hynny,bydd y pwysau'n cael ei symud oddi ar dy ysgwyddau di,a bydd iau Assyria'n cael ei dorri oddi ar dy waram ei fod mor hunanfodlon.

28. Daeth y gelyn ac ymosod ar Aiath,ac yna aeth ymlaen i Migroncyn paratoi ei gêr yn Michmas.

29. Yna croesi'r bwlchac aros yn Geba dros nos.Roedd Rama wedi dychryn,a pobl Gibea, tref Saul, yn ffoi.

30. “Rho sgrech, Bath-galîm!Gwrando'n astud, Laisha!Ateb hi, Anathoth!”

Eseia 10