9. Oni bai fod yr ARGLWYDD holl-bweruswedi gadael i rai pobl fyw,bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom,neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.
10. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,arweinwyr Sodom!Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi,bobl Gomorra!
11. “Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?”meddai'r ARGLWYDD.“Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi,o fraster anifeiliaid a gwaed teirw.Dw i ddim eisiau eich ŵyn a'ch bychod geifr chi.
12. Dych chi'n ymddangos o'm blaen i –Ond pwy ofynnodd i chi ddodi stompio drwy'r deml?
13. Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr!Mae'r arogldarth yn troi arna i!Dych chi'n dathlu Gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau,ac yn cynnal cyfarfodydd eraill,Ond alla i ddim diodde'r drygionisy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi.
14. Dw i'n casáu'r lleuadau newydda'ch gwyliau eraill chi.Maen nhw'n faich arna i;alla i mo'i diodde nhw.
15. Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo,bydda i'n edrych i ffwrdd.Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi,ond fydda i ddim yn gwrando.Mae gwaed ar eich dwylo chi!
16. Ymolchwch! Byddwch yn lân!Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneudallan o'm golwg i!Stopiwch wneud drwg;
17. Dysgwch wneud da.Brwydrwch dros gyfiawnder;o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu.Cefnogwch hawliau plant amddifad,a dadlau dros achos y weddw.
18. Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,”—meddai'r ARGLWYDD.“Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar,gallan nhw droi'n wyn fel yr eira;Os ydyn nhw'n goch tywyll,gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.
19. Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud,cewch fwyta cynnyrch da'r tir;
20. Ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando,byddwch chi'n cael eich difa gan y cleddyf,”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
21. Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain.Roedd hi'n ddinas ffyddlon,yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn.Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi –ond bellach llofruddion.
22. Mae dy arian wedi ei droi'n amhuredd;mae dy win wedi ei gymysgu â dŵr!