Eseia 1:16-23 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ymolchwch! Byddwch yn lân!Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneudallan o'm golwg i!Stopiwch wneud drwg;

17. Dysgwch wneud da.Brwydrwch dros gyfiawnder;o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu.Cefnogwch hawliau plant amddifad,a dadlau dros achos y weddw.

18. Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,”—meddai'r ARGLWYDD.“Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar,gallan nhw droi'n wyn fel yr eira;Os ydyn nhw'n goch tywyll,gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.

19. Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud,cewch fwyta cynnyrch da'r tir;

20. Ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando,byddwch chi'n cael eich difa gan y cleddyf,”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

21. Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain.Roedd hi'n ddinas ffyddlon,yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn.Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi –ond bellach llofruddion.

22. Mae dy arian wedi ei droi'n amhuredd;mae dy win wedi ei gymysgu â dŵr!

23. Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela,ac yn ffrindiau i ladron;Maen nhw i gyd yn hoffi breib,Ac yn chwilio am wobr.Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifadna gwrando ar achos y weddw.

Eseia 1