3. Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma'r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario'r offer ysgrifennu,
4. a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc ar dalcen pawb sy'n galaru'n drist am yr holl bethau ffiaidd sy'n digwydd yma.”
5. Wedyn clywais e'n dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd!
6. Lladdwch nhw i gyd – yr hen a'r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.”Felly dyma nhw'n dechrau gyda'r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml.
7. “Gwnewch y deml yn lle sydd wedi ei lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy'r ddinas i gyd.”
8. Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?”