Eseciel 6:7-13 beibl.net 2015 (BNET)

7. Bydd cyrff marw ym mhobman! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

8. “‘Ond bydda i'n gadael i rai ohonoch chi ddianc. Bydd y rheiny'n ffoaduriaid wedi eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.

9. A byddan nhw'n cofio amdana i yno! Byddan nhw'n sylweddoli sut roedden nhw'n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd.

10. Byddan nhw'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai nid bygythiad gwag oedd y drychineb ddaeth arnyn nhw!’”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:“Dangos mor ddig wyt ti trwy ysgwyd dy ddwrn a stampio dy draed, a gweiddi, ‘Gwae!’ o achos yr holl bethau ffiaidd mae pobl Israel wedi eu gwneud. Byddan nhw'n cael eu lladd gan gleddyf y gelyn, newyn, neu haint.”

12. Bydd pobl yn marw ym mhobman! Bydd y rhai sy'n bell i ffwrdd yn marw o afiechydon, y rhai sy'n agos yn cael eu lladd gan y gelyn, ac unrhyw un sydd ar ôl yn marw o newyn. Bydda i'n tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw!

13. Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i'w heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod a'r allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!

Eseciel 6