13. Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i'w heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod a'r allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!
14. Dw i'n mynd i'w taro nhw'n galed. Fydd eu tir nhw yn ddim byd ond anialwch diffaith, yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Ribla yn y gogledd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!