Eseciel 5:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a'i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso'r gwallt wyt ti wedi ei dorri, a'i rannu'n dri.

2. Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw!

3. Ond cymer rhyw ychydig bach o'r gwallt a'i gadw'n saff yn dy boced.

4. Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.”

5. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi'r lle canolog iddi hi, gyda'r gwledydd eraill i gyd o'i chwmpas.

Eseciel 5