Eseciel 48:12-19 beibl.net 2015 (BNET)

12. Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda tir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw.

13. “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led.

14. Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi ei gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD.

15. “Bydd y gweddill – milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd – yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol.

16. Bydd y ddinas yn mesur milltir a hanner bob ffordd.

17. A bydd tir agored rhyw gant tri deg metr o led o gwmpas y ddinas i gyd.

18. Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a tair milltir a hanner i'r gorllewin.

19. Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas.

Eseciel 48