Eseciel 46:8-15 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae pennaeth y wlad i fynd at y giât drwy'r cyntedd allanol, a mynd allan yr un ffordd.

9. “‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn trwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn.

10. Ar yr adegau yma bydd pennaeth y wlad yn mynd i mewn ac allan gyda gweddill y bobl.

11. “‘Adeg y gwyliau crefyddol dylid cyflwyno deg cilogram o rawn gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae rhywun eisiau gyda'r ŵyn. A galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.

12. Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo.

13. “‘Bob bore rhaid i oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno gael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.

14. Gyda'r oen rhaid cyflwyno offrwm o rawn bob bore – tua dau gilogram ac un rhan o dair o alwyn o olew olewydd i wlychu'r blawd. Fydd y rheol yma am yr offrwm o rawn byth yn newid.

15. Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr.

Eseciel 46