12. Am eu bod nhw wedi helpu'r bobl i addoli eilunod a gwneud i bobl Israel faglu a pechu yn fy erbyn i, ar fy llw, bydd rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu pechod, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
13. Fyddan nhw ddim yn cael dod yn agos ata i i wasanaethu fel offeiriaid, na chyffwrdd dim byd dw i wedi ei gysegru. Bydd rhaid iddyn nhw fyw gyda'r cywilydd o fod wedi mynd trwy'r holl ddefodau ffiaidd yna.
14. Byddan nhw'n gweithio fel gofalwyr y deml ac yn gwneud yr holl waith cynnal a chadw ynddi.
15. “‘Ond bydd yr offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc, yn cael dod ata i a gwasanaethu fel offeiriaid. Roedden nhw wedi dal ati i wneud eu gwaith yn ffyddlon yn y deml pan oedd gweddill pobl Israel wedi troi cefn arna i a mynd i addoli eilunod. Byddan nhw'n dod i gyflwyno brasder a gwaed yr aberthau i mi.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
16. “‘Byddan nhw'n dod i mewn i'r cysegr i weini wrth fy mwrdd i a gwneud eu dyletswyddau.
17. “‘Pan fyddan nhw'n dod i mewn trwy giatiau'r iard fewnol rhaid iddyn nhw wisgo dillad o liain. Dŷn nhw ddim i wisgo gwlân o gwbl pan maen nhw'n gwasanaethu yn yr iard fewnol neu yn adeilad y Deml ei hun.
18. Rhaid iddyn nhw wisgo twrban o liain a dillad isaf o liain – dim byd fyddai'n gwneud iddyn nhw chwysu.
19. Ond pan fyddan nhw'n mynd allan at y bobl i'r iard allanol rhaid iddyn nhw newid eu dillad; cadw'r dillad roedden nhw'n gwasanaethu ynddyn nhw yn yr ystafelloedd sydd wedi eu neilltuo i'r pwrpas hwnnw, a gwisgo eu dillad bob dydd. Wedyn fyddan nhw ddim yn peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â'r dillad sanctaidd.
20. “‘Rhaid iddyn nhw dorri eu gwallt yn rheolaidd – peidio siafio eu pennau, na thyfu eu gwallt yn rhy hir.
21. Dydy offeiriad ddim i yfed gwin cyn mynd i mewn i'r iard fewnol.
22. Dŷn nhw ddim i briodi gwraig weddw na gwraig sydd wedi cael ysgariad, dim ond un o ferched Israel sy'n wyryf neu wraig weddw oedd yn briod ag offeiriad o'r blaen.
23. Byddan nhw'n dysgu'r bobl i wahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a dangos iddyn nhw sut i wahaniaethu rhwng beth sy'n aflan ac yn lân.