Eseciel 42:14-20 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dydy'r offeiriaid ddim i fynd yn syth allan o'r cysegr i'r iard allanol. Rhaid iddyn nhw dynnu'r dillad cysegredig maen nhw wedi bod yn gweinidogaethu ynddyn nhw a gwisgo dillad eraill cyn mynd allan i ble mae'r bobl yn cael mynd.”

15. Ar ôl iddo orffen mesur y tu mewn i adeiladau'r deml, aeth y dyn â fi allan drwy'r giât ddwyreiniol a mesur y tu allan i'r cwbl.

16. Defnyddiodd ei ffon fesur ar yr ochr ddwyreiniol ac roedd yn ddau gant chwe deg dau metr a hanner.

17-19. Yna mesurodd yr ochr ogleddol, yr ochr ddeheuol a'r ochr orllewinol, ac roedden nhw i gyd yr un faint.

20. Mesurodd y wal ar y pedair ochr. Roedd yn ddau cant chwe deg dau metr a hanner bob ffordd. Roedd y waliau yma'n gwahanu'r cysegredig oddi wrth y cyffredin.

Eseciel 42