15. Mesurodd y pellter o du blaen y fynedfa i du blaen yr ystafell gyntedd fewnol. Roedd yn ddau ddeg chwech metr.
16. Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi eu haddurno gyda coed palmwydd.
17. Yna aeth รข fi allan i gwrt allanol y deml. Roedd yna bafin o gwmpas yr iard, a tri deg o ystafelloedd o gwmpas y pafin.
18. Roedd y pafin yn cysylltu'r giatiau, ac roedd yr un lled a'r giatiau eu hunain. Dyma'r pafin isaf.