Eseciel 37:13-17 beibl.net 2015 (BNET)

13. Pan fydda i'n agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

14. Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, a byddwch yn byw. Dw i'n mynd i'ch setlo chi i lawr yn ôl yn eich gwlad eich hunain, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Mae beth dw i'n ddweud yn mynd i ddigwydd,’” meddai'r ARGLWYDD.

15. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

16. “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd ffon, ac ysgrifennu arni, ‘Jwda a holl bobl Israel sydd gydag e.’ Yna cymer ffon arall, ac ysgrifennu arni hi, ‘ffon Joseff, sef Effraim, a holl bobl Israel sydd gydag e.’

17. Dal nhw gyda'i gilydd yn dy law, fel un ffon.

Eseciel 37