8. Bydd cyrff marw yn gorchuddio dy fynyddoedd. Bydd pobl wedi eu lladd gan y cleddyf yn gorwedd ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd ac ym mhob ceunant.
9. Byddi'n adfeilion am byth. Fydd neb yn byw ynot ti. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
10. “‘Roeddet ti'n dweud, “Bydd y ddwy wlad yna yn perthyn i mi! Bydda i'n eu cymryd nhw,” – er bod yr ARGLWYDD yna.
11. Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘dw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu, am fod mor gas a chenfigennus a sbeitlyd. Bydda i'n dangos pwy ydw i iddyn nhw, drwy dy gosbi di.
12. Byddi'n gwybod wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi clywed yr holl bethau sarhaus rwyt ti wedi bod yn eu dweud am fynyddoedd Israel. “Maen nhw wedi eu dinistrio,” meddet ti, “Maen nhw yna ar blât i ni!”