5. “‘Rwyt ti bob amser wedi casáu pobl Israel. Roeddet ti'n ymosod arnyn nhw gyda'r cleddyf pan oedden nhw mewn trafferthion, pan o'n i eisoes wedi eu cosbi nhw.
6. Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gan dy fod ti mor hoff o dywallt gwaed mae lladdfa ar ei ffordd i ti!
7. Bydda i'n troi Edom yn anialwch diffaith. Bydd hyd yn oed y rhai sy'n pasio trwodd yn cael eu lladd.
8. Bydd cyrff marw yn gorchuddio dy fynyddoedd. Bydd pobl wedi eu lladd gan y cleddyf yn gorwedd ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd ac ym mhob ceunant.
9. Byddi'n adfeilion am byth. Fydd neb yn byw ynot ti. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
10. “‘Roeddet ti'n dweud, “Bydd y ddwy wlad yna yn perthyn i mi! Bydda i'n eu cymryd nhw,” – er bod yr ARGLWYDD yna.