4. Os ydy pobl yn clywed y corn hwrdd ond yn cymryd dim sylw, nhw fydd ar fai pan gân nhw eu lladd.
5. Roedden nhw wedi clywed y corn hwrdd, ond ei anwybyddu. Arnyn nhw mae'r bai. Petaen nhw wedi gwrando bydden nhw'n dal yn fyw.
6. Ond beth petai'r gwyliwr heb ganu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl pan welodd y fyddin yn dod? Mae rhywun yn cael ei ladd. Mae'r person hwnnw'n marw am ei fod e'i hun wedi pechu, ond bydda i'n dal y gwyliwr yn gyfrifol am achosi iddo gael ei ladd.
7. “Ddyn, ti dw i wedi ei benodi yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.
8. Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim yn ei rybuddio fod rhaid iddo newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i yn dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.
9. Ond os byddi di wedi ei rybuddio i newid ei ffyrdd, ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.