1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2. “Dywed wrth dywysog Tyrus, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ti mor falch! Ti'n meddwl dy fod ti'n dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y moroedd! Duw wir! Dim ond dyn meidrol wyt ti, er dy fod yn honni pethau mor fawr.
3. Ti'n meddwl dy fod ti'n fwy doeth na Daniel! Does dim byd sy'n ddirgelwch i ti!
4. Ti wedi defnyddio dy graffter a dy glyfrwch i gael mwy o gyfoeth. Ti wedi casglu aur ac arian i dy goffrau.