12. “‘Roeddet ti'n masnachu gyda Tarshish bell, ac yn cyfnewid arian, haearn, tin a phlwm am dy nwyddau.
13. Roedd Iafan, Twbal a Meshech yn cyfnewid caethweision a nwyddau pres.
14. Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod.
15. Roeddet ti'n masnachu gyda phobl Rhodos, a llawer o ynysoedd eraill. Roedden nhw'n talu gydag ifori a choed eboni.
16. Roedd Edom yn delio gyda ti am dy fod yn gwerthu cymaint o bethau gwahanol. Roedden nhw'n talu gyda meini gwerthfawr, defnydd porffor, defnydd wedi ei frodio, lliain main drud, cwrel, a rhuddem.
17. A Jwda a gwlad Israel hefyd, yn cyfnewid gwenith o Minnith, ffigys, mêl, olew olewydd a gwm balm.
18. Roedd Damascus yn delio gyda ti am fod gen ti gymaint o nwyddau ac am dy fod ti mor gyfoethog. Roedden nhw'n dod â gwin o Chelbon, gwlân o Sachar,
19. a casgenni o win o Isal. Haearn bwrw, powdr casia a sbeisiau persawrus hefyd.
20. Roedd Dedan yn cynnig eu carthenni cyfrwy.
21. Arabia a shîcs Cedar yn gwerthu ŵyn, hyrddod a geifr.
22. Masnachwyr Sheba a Raama yn cynnig eu perlysiau gorau, meini gwerthfawr o bob math ac aur.
23. Roedd Haran, Canne ac Eden, a masnachwyr Sheba, Ashŵr a Cilmad yn gwsmeriaid i ti hefyd,