Eseciel 26:4-9 beibl.net 2015 (BNET)

4. Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth.

5. Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus,

6. a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

7. “Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr.

8. Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'i tariannau yn dod yn dy erbyn di!

9. Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn.

Eseciel 26