Eseciel 2 beibl.net 2015 (BNET)

Yr ARGLWYDD yn dewis Eseciel

1. Dyma'r llais yn dweud, “Ddyn, saf ar dy draed; dw i eisiau siarad â ti.”

2. Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed. A dyma'r llais oedd yn siarad â mi

3. yn dweud: “Ddyn, dw i'n dy anfon di at bobl Israel. Maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i – nhw a'u hynafiaid hefyd.

4. Maen nhw'n bobl benstiff ac ystyfnig. Rwyt i ddweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud.’

5. Os byddan nhw'n gwrando neu beidio – wedi'r cwbl maen nhw'n griw o rebeliaid – byddan nhw o leia'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.

6. “Ond paid dychryn pan fyddan nhw'n dy fygwth di. Bydd fel cael mieri a drain o dy gwmpas di ym mhobman, neu eistedd yng nghanol sgorpionau – ond paid ti bod ag ofn wrth iddyn nhw fygwth ac edrych yn gas arnat ti.

7. Dywed di wrthyn nhw beth ydy'r neges gen i, os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw anufudd.

8. Gwna di'n siŵr dy fod ti'n gwrando arna i. Paid ti â tynnu'n groes. Agor dy geg a bwyta'r hyn dw i'n ei roi i ti.”

9. A dyna pryd gwelais i law wedi ei hestyn allan ata i. Roedd y llaw yn dal sgrôl.

10. Dyma'r sgrôl yn cael ei hagor o'm blaen i. Roedd ysgrifen ar y ddwy ochr – a'r teitl oedd “Caneuon o alar, tristwch a gwae”.