Eseciel 19:8-11 beibl.net 2015 (BNET)

8. Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpasi ymosod arno.Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drostoa'i ddal yn eu trap;

9. rhoi coler a bachyn am ei wddf,a mynd ag e at frenin Babilon.Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carcharfel bod ei ruo i'w glywed ddim mwyar fynyddoedd Israel.

10. Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hirionwedi ei phlannu ar lan y dŵr.Roedd ei changhennau yn llawn ffrwytham fod digon o ddŵr iddi.

11. Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryfi wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw.Tyfodd yn uchel at y cymylau;roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.

Eseciel 19