3. Magodd un o'i chenawon,a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.
4. Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano,a chafodd ei ddal yn eu trap.Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachauyn gaeth i'r Aifft.
5. Pan welodd y fam ei fod wedi mynd,a bod ei gobaith wedi chwalu,cymerodd un arall o'i chenawon,a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf.
6. Cerddodd yng nghanol y llewod,wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf.Dysgodd sut i hela a rhwygo ei ysglyfaeth;roedd yn bwyta cnawd dynol.