1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
2. “Ddyn, dyma bos i ti ei rannu gyda phobl Israel. Stori iddyn nhw.
3. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:‘Eryr mawr a'i adenydd enfawra'i blu hirion ar eu blaenau.Daeth eryr a'i wisg amryliwdraw i Libanus.Pigo coron y goeden gedrwydd
4. a thorri ei brigyn uchaf.Ei gario i ffwrdd i wlad masnachwyr,a'i blannu yn ninas y farchnad.
5. Cymerodd un o hadau'r wlada'i blannu mewn pridd da,yn sbrigyn wedi ei osod ar lan y dŵrfel coeden helygen.
6. Blagurodd, a throi yn winwyddenyn tyfu a lledu'n isel.Roedd ei gwreiddiau oddi tanodda'i changhennau'n ymestyn at yr eryr.Tyfodd ei changhennaua daeth dail ar ei brigau.
7. Ond roedd eryr mawr arall,gydag adenydd enfawra thrwch o blu hardd.A dyma'r winwyddenyn troi ei gwreiddiau at hwnnw,ac yn ymestyn ei changhennau atoi gael ei dyfrio ganddo.
8. Roedd wedi ei phlannu mewn pridd daar lan digonedd o ddŵr,i'w changhennau leduac i ffrwyth dyfu arni,yn winwydden hardd.’
9. Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:‘Fydd hi'n llwyddo?Na – bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd,yn tynnu ei ffrwyth oddi arni,a'i gadael i bydru.Bydd ei dail ir yn gwywo.Fydd dim angen byddin fawr grefi dynnu ei gwreiddiau o'r pridd.
10. Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo?Na – bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythua bydd hi'n crino'n llwyr.Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’”
11. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
12. “Dywed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon.
13. Wedyn dyma frenin Babilon yn gwneud cytundeb gydag un o deulu brenhinol Jwda, a'i gael i addo ar lw y byddai'n ufudd iddo. A gwnaeth yr un peth gyda rhai o bobl fawr y wlad.
14. Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb.
15. Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi?
16. Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e yn y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu.