Effesiaid 6:17-24 beibl.net 2015 (BNET)

17. Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.

18. A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd.

19. A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw'n rhoi'r geiriau iawn i mi bob tro bydda i'n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn.

20. Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i'n dal ati i wneud hynny'n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud!

21. Bydd Tychicus, sy'n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i'r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau'n mynd a beth dw i'n ei wneud.

22. Dyna pam dw i'n ei anfon e atoch chi yn un swydd, i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi.

23. Frodyr a chwiorydd, dw i am i Dduw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist eich galluogi chi i fyw mewn heddwch, caru'ch gilydd ac ymddiried yn llwyr ynddo fe.

24. Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n caru ein Harglwydd Iesu Grist o waelod calon yn profi o'i haelioni rhyfeddol.

Effesiaid 6