Effesiaid 2:7-10 beibl.net 2015 (BNET)

7. Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu.

8. Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e!

9. Dych chi'n gallu gwneud dim i'w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio.

10. Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi ein creu mewn perthynas รข'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi eu trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.

Effesiaid 2