Effesiaid 2:15-22 beibl.net 2015 (BNET)

15. Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â'n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl.

16. Mae'r ddau yn dod yn un corff sy'n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â'r casineb rhyngon ni i ben.

17. Daeth i gyhoeddi'r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‛bell oddi wrtho‛, a heddwch i ni'r Iddewon oedd yn ‛agos‛.

18. Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae'r ddau grŵp gyda'i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy'r un Ysbryd Glân.

19. Felly dych chi o'r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‛y tu allan‛. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu!

20. Dych chi'n rhan o'r un adeilad! Dŷn ni'r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a'r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a'r Meseia Iesu ei hun ydy'r maen clo.

21. Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a'n cysylltu â'n gilydd i wneud teml sydd wedi ei chysegru i'r Arglwydd.

22. A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy'n perthyn iddo, yn rhan o'r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw trwy ei Ysbryd.

Effesiaid 2