Diarhebion 9:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach;dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.

10. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth,ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.

11. Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir;byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol.

12. Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti;ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau.

13. Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn;mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.

14. Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.

15. Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibioac yn meindio eu busnes eu hunain.

16. Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin,“Dewch yma, chi bobl wirion!

17. Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys;a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”

Diarhebion 9