Diarhebion 7:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. Roedd yn croesi'r stryd at y groesfforddsy'n arwain at ei thŷ hi.

9. Roedd hi'n hwyr yn y dydd,ac yn dechrau nosi a thywyllu.

10. Yn sydyn dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod,wedi ei gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi'n amlwg.

11. (Dynes swnllyd, ddigywilydd,sydd byth yn aros adre.

12. Ar y stryd un funud, ar y sgwâr y funud nesa,yn loetran ar bob cornel.)

13. Mae hi'n gafael yn y bachgen a'i gusanu,ac yn dweud yn bowld:

14. “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i;dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.

15. A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di –roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti!

16. Dw i wedi paratoi'r gwely!Mae yna gynfasau glân arno,a chwilt lliwgar hyfryd o'r Aifft.

17. Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr –myrr, aloes, a sinamon.

Diarhebion 7