Diarhebion 6:18-26 beibl.net 2015 (BNET)

18. calon sy'n cynllwynio drwg,traed sy'n brysio i wneud drwg,

19. tyst sy'n dweud celwydd,a rhywun sy'n dechrau ffrae mewn teulu.

20. Fy mab, gwna beth orchmynodd dy dad i ti;paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti.

21. Cadw nhw ar flaen dy feddwl bob amser;gwisga nhw fel cadwyn am dy wddf.

22. Ble bynnag fyddi di'n mynd, byddan nhw'n dy arwain di;pan fyddi'n gorwedd i orffwys, byddan nhw'n edrych ar dy ôl di;pan fyddi di'n deffro, byddan nhw'n rhoi cyngor i ti.

23. Mae gorchymyn fel lamp,a dysgeidiaeth fel golau,ac mae cerydd a disgyblaeth yn arwain i fywyd.

24. Bydd yn dy gadw rhag y ferch ddrwg,a rhag y wraig anfoesol.

25. Paid gadael i'r awydd i'w chael hi afael ynot ti,na gadael iddi hi dy drapio di drwy fflyrtian â'i llygaid.

26. Mae putain yn dy adael gyda dim ond torth o fara;ond mae gwraig dyn arall yn cymryd popeth – gall gostio dy fywyd!

Diarhebion 6