Diarhebion 5:9-22 beibl.net 2015 (BNET)

9. rhag i ti golli pob hunan-barch,ac i'w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.

10. Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di,ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio'n galed amdano.

11. Wedyn byddi'n griddfan yn y diwedd,pan fydd dy gorff wedi ei ddifetha.

12. Byddi'n dweud,“Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint?Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd?

13. Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon,a chymryd sylw o'r rhai oedd yn fy nysgu i?

14. Bu bron i bopeth chwalu'n llwyr i mi,a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.”

15. Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun!Ei dŵr ffres hi a neb arall.

16. Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon dilifo allan i'r strydoedd?

17. Na, cadw hi i ti dy hun,paid gadael i neb arall ei chael.

18. Gad i dy ffynnon gael ei bendithio!Mwynha dy hun gyda'r wraig briodaist ti pan yn ifanc

19. – dy ewig hyfryd, dy afr dlos.Gad i'w bronnau roi boddhad i ti,i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.

20. Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol?Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?

21. Cofia fod Duw yn gweld popeth ti'n wneud.Mae'n gweld y cwbl, o'r dechrau i'r diwedd.

22. Bydd yr un sy'n gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni! –bydd wedi ei rwymo gan raffau ei bechod ei hun.

Diarhebion 5