18. Mae llwybr y rhai sy'n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr,ac yn goleuo fwyfwy nes mae'n ganol dydd.
19. Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll;dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw.
20. Fy mab, gwrando ar beth dw i'n ddweud;gwrando'n astud ar fy ngeiriau.
21. Paid colli golwg arnyn nhw;cadw nhw'n agos at dy galon.
22. Maen nhw'n rhoi bywyd i'r un sy'n eu cael,a iechyd i'r corff cyfan.
23. Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall,achos dyna ffynhonnell dy fywyd.
24. Paid dweud celwydd;paid dweud pethau i dwyllo pobl.