Diarhebion 4:10-17 beibl.net 2015 (BNET)

10. Fy mab, gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud,a byddi di'n cael byw yn hir.

11. Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth;ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn.

12. Byddi'n cerdded yn dy flaen yn hyderus;byddi'n rhedeg heb faglu o gwbl.

13. Dal yn dynn yn beth wyt ti'n ddysgu, paid gollwng gafael.Cadw'r cwbl yn saff – mae'n rhoi bywyd i ti!

14. Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg;paid mynd yr un ffordd â nhw.

15. Cadw draw! Paid mynd yn agos!Tro rownd a mynd i'r cyfeiriad arall!

16. Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg.Maen nhw'n colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun.

17. Drygioni ydy'r bara sy'n eu cadw nhw'n fyw,A thrais ydy'r gwin maen nhw'n ei yfed!

Diarhebion 4