Diarhebion 4:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Blant, clywch beth mae'ch tad yn ei ddysgu i chi.Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth.

2. Dw i'n dysgu beth sy'n dda,felly peidiwch troi cefn ar beth dw i'n ddweud.

3. Roeddwn i'n blentyn ar un adeg,yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam.

4. Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i,“Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud;Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da.

5. Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn;paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud.

Diarhebion 4