9. Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn,a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd.
10. Pwy sy'n gallu dod o hyd i wraig dda?Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11. Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr,ac ar ei ennill bob amser.
12. Mae hi'n dda iddo bob amser,a byth yn gwneud drwg.
13. Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arallac yn mwynhau gweu a gwnïo.
14. Mae hi fel fflyd o longau masnachyn cario bwyd o wledydd pell.
15. Mae hi'n codi yn yr oriau mân,i baratoi bwyd i'w theulu,a rhoi gwaith i'w morynion.
16. Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae,a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo.
17. Mae hi'n bwrw iddi'n frwd,ac yn gweithio'n galed.
18. Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo;dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos.
19. Mae hi'n brysur yn nyddu â'i dwylo,a'i bysedd yn trin y gwlân.
20. Mae hi'n rhoi yn hael i'r tlodion;ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen.
21. Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira,am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.
22. Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely,a dillad o liain main drud.
23. Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas,ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.
24. Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,a dillad i'r masnachwyr eu prynu.
25. Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.
26. Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser,ac yn garedig wrth ddysgu eraill.
27. Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd,a dydy hi byth yn segur.