Diarhebion 31:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Rhowch ddiod feddwol i'r rhai sy'n marwa gwin i'r un sy'n diodde'n chwerw.

7. Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio'u tlodi,a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio'u trafferthion.

8. Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais,ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.

9. Coda dy lais o'u plaid nhw, barna'n gyfiawn,a dadlau dros hawliau'r rhai mewn angen a'r tlawd.

10. Pwy sy'n gallu dod o hyd i wraig dda?Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.

11. Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr,ac ar ei ennill bob amser.

Diarhebion 31