Diarhebion 31:24-31 beibl.net 2015 (BNET)

24. Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,a dillad i'r masnachwyr eu prynu.

25. Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.

26. Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser,ac yn garedig wrth ddysgu eraill.

27. Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd,a dydy hi byth yn segur.

28. Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni;ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau,

29. “Mae yna lawer o ferched da i'w cael,ond rwyt ti'n well na nhw i gyd.”

30. Mae prydferthwch yn gallu twyllo,a harddwch yn arwynebol.Gwraig sy'n parchu'r ARGLWYDDsydd yn haeddu cael ei chanmol.

31. Rhowch glod iddi am beth mae wedi ei gyflawni,a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.

Diarhebion 31