11. Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi'n llwyr,ac ar ei ennill bob amser.
12. Mae hi'n dda iddo bob amser,a byth yn gwneud drwg.
13. Mae hi'n edrych am wlân a defnydd arallac yn mwynhau gweu a gwnïo.
14. Mae hi fel fflyd o longau masnachyn cario bwyd o wledydd pell.
15. Mae hi'n codi yn yr oriau mân,i baratoi bwyd i'w theulu,a rhoi gwaith i'w morynion.
16. Mae hi'n meddwl yn ofalus cyn prynu cae,a defnyddio'i harian i blannu gwinllan ynddo.
17. Mae hi'n bwrw iddi'n frwd,ac yn gweithio'n galed.
18. Mae hi'n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo;dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy'r nos.
19. Mae hi'n brysur yn nyddu â'i dwylo,a'i bysedd yn trin y gwlân.
20. Mae hi'n rhoi yn hael i'r tlodion;ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen.
21. Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira,am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.
22. Mae hi'n gwneud cwiltiau i'r gwely,a dillad o liain main drud.
23. Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas,ac yn eistedd gyda'r arweinwyr i gyd.
24. Mae hi'n gwneud defnydd i'w werthu,a dillad i'r masnachwyr eu prynu.
25. Mae hi'n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,ac yn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus.
26. Mae hi'n siarad yn ddoeth bob amser,ac yn garedig wrth ddysgu eraill.
27. Mae hi'n gofalu am y teulu i gyd,a dydy hi byth yn segur.
28. Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni;ac mae ei gŵr yn ei chanmol i'r cymylau,
29. “Mae yna lawer o ferched da i'w cael,ond rwyt ti'n well na nhw i gyd.”
30. Mae prydferthwch yn gallu twyllo,a harddwch yn arwynebol.Gwraig sy'n parchu'r ARGLWYDDsydd yn haeddu cael ei chanmol.