12. Achos mae'r ARGLWYDD yn disgyblu'r rhai mae'n eu caru,fel mae tad yn cosbi'r plentyn mae mor falch ohono.
13. Y fath fendith sydd i'r sawl sy'n darganfod doethineb,ac yn llwyddo i ddeall.
14. Mae'n gwneud mwy o elw nag arian,ac yn talu'n ôl lawer mwy nag aur.
15. Mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau;does dim trysor tebyg iddi.
16. Mae bywyd llawn yn ei llaw dde,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17. Mae ei ffyrdd yn llawn haelioni,a'i llwybrau yn arwain i heddwch a diogelwch.
18. Mae hi fel coeden sy'n rhoi bywyd i'r rhai sy'n gafael ynddi,ac mae'r rhai sy'n dal gafael ynddi mor hapus!
19. Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini'r ddaear;a'i ddeall e wnaeth drefnu'r bydysawd.
20. Ei drefn e wnaeth i'r ffynhonnau dŵr dorri allan,ac i'r awyr roi dafnau o wlith.
21. Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a'r ffordd iawn;dal dy afael ynddyn nhw.