Diarhebion 29:9-12 beibl.net 2015 (BNET)

9. Pan mae person doeth yn mynd â ffŵl i gyfraith,bydd digon o arthio a gwawdio, ond dim heddwch!

10. Mae llofruddion yn casáu pobl onest,ond mae'r rhai cyfiawn yn eu hamddiffyn nhw.

11. Mae'r ffŵl yn colli ei limpyn yn lân,ond mae'r doeth yn rheoli ei dymer.

12. Pan mae llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,mae ei swyddogion i gyd yn ddrwg.

Diarhebion 29