18. Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sy'n bwyta ei ffrwyth,a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu.
19. Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr,mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon.
20. Dydy Annwn ac Abadon byth yn cael digon,a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith.
21. Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person.
22. Gelli falu'r ffŵl fel ŷd gyda pestl mewn mortarond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael.
23. Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn,a gofala am y geifr;
24. achos dydy cyfoeth ddim yn para am byth,a dydy coron ddim yn aros bob amser.