Diarhebion 26:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae rhoi anrhydedd i ffŵlmor wyrion â rhwymo carreg mewn ffon dafl.

9. Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl,fel llwyn o fieri yn llaw meddwyn.

10. Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwynfel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio.

11. Mae ffŵl sy'n ailadrodd beth wnaeth e,fel ci yn mynd yn ôl at ei chwŷd.

12. Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth.

13. Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!Mae e'n rhydd yn y stryd!”

14. Mae diogyn yn troi ar ei welyfel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau!

15. Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.

16. Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallachna saith o bobl sy'n rhoi cyngor da.

17. Mae busnesa yn ffrae rhywun arallfel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau.

20. Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi,ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs.

21. Ond mae rhywun sy'n dechrau ffraefel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân.

Diarhebion 26