2. Fel aderyn y to yn gwibio heibio, neu wennol yn hedfan,dydy melltith heb ei haeddu ddim yn gorffwys.
3. Chwip i geffyl a ffrwyn i asyn,a gwialen i gefn ffyliaid.
4. Paid ateb ffŵl fel mae e'n siarad,neu byddi di'n debyg iddo;
5. ateb ffŵl fel mae e'n siarad,a bydd e'n meddwl ei fod e'n glyfar.
6. Mae anfon neges drwy law ffŵlfel rhywun yn mwynhau gwneud niwed iddo'i hun.
7. Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵlfel coesau rhywun cloff yn hongian yn llipa.
8. Mae rhoi anrhydedd i ffŵlmor wyrion â rhwymo carreg mewn ffon dafl.
9. Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl,fel llwyn o fieri yn llaw meddwyn.
18-19. Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,”fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad.
20. Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi,ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs.
21. Ond mae rhywun sy'n dechrau ffraefel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân.
22. Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –mae'r cwbl yn cael ei lyncu.
23. Mae tafod sy'n rhy barod a bwriad sy'n ddrwgfel farnis clir ar botyn pridd.
24. Mae gelyn yn smalio,ond ei fwriad ydy twyllo;