Diarhebion 26:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.

16. Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallachna saith o bobl sy'n rhoi cyngor da.

17. Mae busnesa yn ffrae rhywun arallfel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau.

18-19. Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,”fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad.

20. Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi,ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs.

21. Ond mae rhywun sy'n dechrau ffraefel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân.

22. Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –mae'r cwbl yn cael ei lyncu.

23. Mae tafod sy'n rhy barod a bwriad sy'n ddrwgfel farnis clir ar botyn pridd.

24. Mae gelyn yn smalio,ond ei fwriad ydy twyllo;

25. paid â'i gredu pan mae'n dweud pethau caredig,achos mae pob math o bethau ffiaidd ar ei feddwl.

Diarhebion 26