Diarhebion 26:10-18-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwynfel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio.

11. Mae ffŵl sy'n ailadrodd beth wnaeth e,fel ci yn mynd yn ôl at ei chwŷd.

12. Mae mwy o obaith i ffŵlnag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth.

13. Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!Mae e'n rhydd yn y stryd!”

14. Mae diogyn yn troi ar ei welyfel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau!

15. Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.

16. Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallachna saith o bobl sy'n rhoi cyngor da.

17. Mae busnesa yn ffrae rhywun arallfel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau.

18-19. Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,”fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad.

Diarhebion 26