9. Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw,a paid dweud am y peth wrth neb arall.
10. Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di,ac i ti gael enw drwg am byth.
11. Mae gair o ganmoliaethfel gemwaith aur mewn tlws arian.
12. Mae gwrando ar gerydd gan rywun doethfel modrwy aur, neu dlws o aur coeth.
13. Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri,fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.
14. Cymylau a gwynt, ond dim glaw –felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi.
15. Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr;ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.
16. Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen,rhag i ti fwyta gormod, a chwydu'r cwbl i fyny.
17. Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml,rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di.
18. Mae tyst sy'n dweud celwydd mewn achos llysyn gwneud niwed fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth finiog.
19. Mae trystio rhywun sy'n ddi-ddal mewn amser anoddfel diodde o'r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed.
20. Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon dristfel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw.
21. Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed.
22. Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben,a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti.
23. Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg.