Diarhebion 25:6-13 beibl.net 2015 (BNET)

6. Paid canmol dy hun o flaen y brenin,a mynd i eistedd yn y seddi pwysig.

7. Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,”na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig.

8. Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llysam dy fod wedi gweld rhywbeth.Beth os fydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti?

9. Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw,a paid dweud am y peth wrth neb arall.

10. Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di,ac i ti gael enw drwg am byth.

11. Mae gair o ganmoliaethfel gemwaith aur mewn tlws arian.

12. Mae gwrando ar gerydd gan rywun doethfel modrwy aur, neu dlws o aur coeth.

13. Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri,fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.

Diarhebion 25