Diarhebion 25:20-28 beibl.net 2015 (BNET)

20. Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon dristfel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw.

21. Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed.

22. Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben,a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti.

23. Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg.

24. Mae byw mewn cornel yn yr atigyn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

25. Mae derbyn newyddion da o wlad bellfel diod o ddŵr oer i wddf sych.

26. Mae dyn da sy'n plygu i ddyn drwgfel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi ei ddifetha.

27. Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da,a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn.

28. Mae rhywun sy'n methu rheoli ei dymerfel dinas a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.

Diarhebion 25