1. Diarhebion Solomon ydy'r rhain hefyd, wedi eu casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda:
2. Braint Duw ydy cadw pethau'n ddirgelwch;braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod.
3. Fel mae'r awyr yn rhy uchel, a'r ddaear yn rhy ddofn,does neb yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl brenhinoedd.
4. Ar ôl gwahanu'r amhuredd o'r arian,mae'r gof yn gallu creu llestr hardd.
5. Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y breninbydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel.
6. Paid canmol dy hun o flaen y brenin,a mynd i eistedd yn y seddi pwysig.
7. Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,”na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig.
8. Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llysam dy fod wedi gweld rhywbeth.Beth os fydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti?
9. Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw,a paid dweud am y peth wrth neb arall.
10. Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di,ac i ti gael enw drwg am byth.
11. Mae gair o ganmoliaethfel gemwaith aur mewn tlws arian.
12. Mae gwrando ar gerydd gan rywun doethfel modrwy aur, neu dlws o aur coeth.
13. Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri,fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.
14. Cymylau a gwynt, ond dim glaw –felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi.
15. Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr;ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.