Diarhebion 23:21-31 beibl.net 2015 (BNET)

21. Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.

22. Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd;a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.

23. Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng,doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!

24. Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawnbydd ei dad mor hapus;mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.

25. Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!

26. Dw i eisiau dy sylw di, fy mab;gwylia'n ofalus, a dysga gen i.

27. Mae putain fel pwll dwfn;a gwraig anfoesol fel pydew cul.

28. Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr;ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.

29. Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus?Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg?Pwy sy'n cael damweiniau diangen?Pwy sydd â llygaid cochion?

30. Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân,ac yn trïo rhyw ddiod newydd o hyd.

31. Paid llygadu'r gwin coch ynasy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydrac yn mynd i lawr mor dda.

Diarhebion 23