Diarhebion 2:2-5 beibl.net 2015 (BNET)

2. Os gwnei di wrando'n astud ar ddoethineb,a cheisio deall yn iawn;

3. Os byddi di'n gofyn am gyngor doeth,ac yn awyddus i ddeall yn iawn;

4. Os byddi'n ceisio doethineb fel arianac yn chwilio amdani fel am drysor wedi ei guddio,

5. yna byddi di'n deall sut i barchu'r ARGLWYDDa byddi'n dod i wybod am Dduw.

Diarhebion 2